Bungalow for sale in Bryn Tywi, Llangynnwr, Caerfyrddin SA31

£340,000
Interested in this property? Call +44 1267 312875 * or Request Details

* Calls to this number will be recorded for quality, compliance and training purposes.

Bungalow for sale - 4 bedrooms

4 2 2

Tenure:
Freehold
Council tax band:
E

Property features

  • Byngalo Modern 3/4 gwely
  • 2 Ystafell Fyw
  • Gwres canolog nwy
  • Gwydr dwbl upvc
  • Mewn cyflwr da
  • Golygfeydd Bendigedig
  • Garej a pharcio oddi ar y rhewl
  • 0.75 milltir o ganol y dref
  • Ar gael yn ddi-gadwyn
  • Gradd EPC - C

Property description

Yn cael ei gynnig ar werth ar gyfarwyddiadau gweithredwyr y perchnogaeth blaenorol. Byngalo modern maint da gyda 3-4 ystafell wely. Mewn lleoliad cyfleus ac mewn cyflwr da, yn cynnwys 2 ystafell fyw, cegin, 3-4 ystafell wely, ystafell molchi teuluol ayyb. Gwres canolog nwy, gwydr dwbl UPVC, garej / gweithdy ar wahân a thir caeedig sy'n hawdd i'w gynnal a chadw yn ogystal â pharcio ychwanegol oddi ar y ffordd. Eiddo sy’n elwa o rhai o’r golygfeydd gorau yng Nghaerfyrddin. Ar werth yn ddi-gadwyn ac yn barod i symud i mewn iddo. Graddiad EPC: C

Lleoliad & Sut I Gyrraedd

What3Words: ///claps.burst.upset

Wedi'i osod yn gyfleus yng nghyfeirnod Grid os sn 419 195 ar stryd boblogaidd iawn o fyngalos preifat ar gyrion tref sirol Caerfyrddin. Mae canol y dref tua hanner milltir i ffwrdd, tra bod yr A48 i Abertawe, Caerdydd ac ati tua milltir i ffwrdd. Mae Caerfyrddin yn cynnig ystod wych o gyfleusterau gan gynnwys ysbyty rhanbarthol, nifer o archfarchnadoedd mawr, Canolfan Hamdden, sinema aml-sgrîn, Pencadlys yr Heddlu ac ati.

Wrth adael maes parcio San Pedr Caerfyrddin trowch i'r chwith ac wrth y gylchfan trowch i'r dde. Parhewch ar hyd Heol Spilman ac ar waelod Rhiw Jal, trowch i'r chwith dros y bont. Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa 1af ac ar ôl tua 100 llath wrth y gylchfan mwy o faint cymerwch yr 2il allanfa fel petaech yn mynd tuag at Bencadlys yr Heddlu. Ar ôl tua 100 llath, trowch i'r dde i Lon Penymorfa. Wrth y gyffordd T trowch i'r dde ac yn syth i'r chwith i Benymorfa. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith a dilynwch y ffordd nes cyrraedd y diwedd a bydd yr eiddo i’w weld ar y chwith – wedi’i adnabod gan arwydd “Ar Werth” Evans Bros.

Adeiladwaith

Deallwn fod yr eiddo wedi'i adeiladu yn y 1970au o waliau bric / bloc, o dan do teils concrit

Cyntedd Blaen

Gyda drws ffrynt upvc, drysau Ffrengig gwydr i'r cyntedd, cwpwrdd awyru dwbl sy'n cynnwys boeler “combi” Vaillant ar gyfer y gwres canolog a dwr poeth domestig. Mynediad i'r llofft sydd wedi'i inswleiddio a'i ffeltio.

Ystafell Fyw (5.79 x 3.66 (18'11" x 12'0"))

Gyda ffenestr nodweddiadol i'r ochr (yn darparu golygfeydd gwych o Gaerfyrddin). Lle tân nwy ar aelwyd teils uchel gyda stand teledu.

Cegin / Ystafell Frecwast (4.32 x 3.72 (14'2" x 12'2"))

Llawr teils ceramig. Cegin modern, sinc dur di-staen, hob nwy, popty trydan Hotpoint, plymio ar gyfer peiriant golchi awtomatig a ffan echdynnu. Digon o arwynebau gwaith a chypyrddau storio helaeth. Ffenestr i'r cefn a drws cefn gwydr upvc.

Ystafell Fwyta (3.68 x 2.97 (12'0" x 9'8"))

Ystafell ymlacio hyfryd gyda ffenestr fawr yn edrych dros y dref, Bryn Myrddin a dyffryn Tywi.

Ystafell Ddwbl Blaen 1 (3.69 x 3.00 (12'1" x 9'10"))

Ystafell Ddwbl i'r Ochr 2 (2.96 x 2.94 (9'8" x 9'7"))

Ystafell Ddwbl i'r Cefn 3 (2.96 x 2.95 (9'8" x 9'8"))

Ffenestr yn edrych dros yr ardd.

Ystafell Ddwbl Blaen 4 / Swyddfa (2.8 x 2.74 (9'2" x 8'11"))

Ty Bach Ar Wahan

Toiled a basn golchi dwylo wedi'i osod ar y wal.

Ystafell Ymolchi (2.38 x 1.87 (7'9" x 6'1"))

Ystafell ymolchi gwyn wedi'i teilsio'n llawn - yn cynnwys basn ymolchi pedestal, toiled, bath a chiwbicl cawod yn y cornel.

Allanol

O flaen y byngalo mae lawnt maint da. Ardal tarmac digon mawr ar gyfer 3 cherbyd. Yn y cefn mae iard gaeedig gyda garej sengl, lle i storio car a sied storio.

Gwasanaethau

Prif gyflenwad trydan, dwr, draeniad a nwy. Gwres canolog nwy. Gwydr dwbl UPVC.

Cynllun

Noder bod Y cynllun hwn at ddibenion adnabod yn unig.

Treth Cyngor

Deallwn fod yr eiddo ym mand E ac mai’r Dreth Cyngor sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 / 2024 yw £2,175 sy’n cyfateb i tua £181.25 y mis cyn gostyngiadau.

Property info

Floorplan(s): Floorplan.Jpg

Floorplan.Jpg View original

Arrange Viewing

For more information about this property, please contact
Evans Bros, SA31 on +44 1267 312875 * (local rate)

Contact Evans Bros about this property

Enter details
    Morning (8am-noon)
    Afternoon (noon-5pm)
    Evening (5pm-9pm)
  1. Characters remaining: 500

By submitting this form, you accept our Terms of Use and Privacy Policy. When you click 'Send message''Request valuation', we will pass your personal data to the selected estate agents so that those agents can respond to your request for information or to arrange a viewing. valuation request.

Disclaimer

Property descriptions and related information displayed on this page, with the exclusion of Running Costs data, are marketing materials provided by Evans Bros, and do not constitute property particulars. Please contact Evans Bros for full details and further information. The Running Costs data displayed on this page are provided by PrimeLocation to give an indication of potential running costs based on various data sources. PrimeLocation does not warrant or accept any responsibility for the accuracy or completeness of the property descriptions, related information or Running Costs data provided here.

Properties on the market nearby

13 more properties like this

View all Bryn Tywi properties for sale