Terraced house for sale in Trefor, Caernarfon LL54
* Calls to this number will be recorded for quality, compliance and training purposes.
Property features
- Ty ynghanol teras
- Golygfeydd tuag at Yr Eifl
- Tair llofft ac atig aml-bwrpas
- Lolfa, Ystafell Fyw ac Ystafell Fwyta
- Gardd gefn helaeth
- Pentref gwledig gyda nifer o gyfleusterau
Property description
Mae’n bleser gan Werthwyr Eiddo a Syrfewyr siartredig Tudor gynnig ar werth gartref delfrydol i deulu ym mhentref Trefor, Arfon.
Mae'r eiddo yma yn mwynhau golygfeydd ysblennydd o’r Eifl a’r Gurn Ddu.
Mae’r eiddo o fewn 25 metr i’r arosfannau bws, gyda gwasanaeth bob awr i gyfeiriad Pwllheli a Chaernarfon; capel dros y ffordd ac ysgol gynradd Yr Eifl o fewn 100 metr. Ceir hefyd siop fwyd, Swyddfa Bost a chae chwarae.
Gwres canolog (nwy) a ffenestri dwbwl drwy’r ty.
Yn gryno, mae'n cynnwys y canlynol: -
Cyntedd. Lolfa. Ystafell fyw. Ystafell fwyta. Cegin. Tair ystafell wely. Ystafell ymolchi. Mantais o ystafell atig/aml-bwrpas. Gerddi yn y blaen a’r cefn.
Mae'r ty yn barod i symud i fewn iddo ac nid oes tsaen brynwyr yn bod.
Llawr Gwaelod
Cyntedd
Rheiddiadur. Grisiau i'r llawr cyntaf. Drws i:
Lolfa (3.38m x 3.89m (11'1 x 12'9))
Rheiddiadur.
Ystafell Fyw (3.91m x 3.63m (12'10 x 11'11))
Rheiddiadur. Lle tân gyda llosgwr aml-danwydd newydd sbon.
Ystafell Fwyta (2.51m x 2.79m (8'3 x 9'2))
Rheiddiadur. Drws i gwpwrdd dan grisiau.
Cegin (2.59m x 2.84m (8'6 x 9'4))
Cegin fodern compact. Lle ar gyfer popty a peiriant golchi dillad. Drws yn arwain at y cowt/iard allanol, sied fechan storio.
Llawr Cyntaf
Pengrisiau
Ystafell Ymolchi (2.57m x 3.12m (8'5 x 10'3))
Baddon a chawod drydan uwchben. Ffan trwy'r wal. Basn ymolchi. Toiled. Rheiddiadur. Cwpwrdd yn cynnwys boilar nwy (gwresogi a dwr poeth) a lle storio.
Llofft 1 (Ffrynt) (2.87m x 3.94m (9'5 x 12'11))
Rheiddiadur.
Llofft 3 (Ffrynt) (1.78m x 2.72m (5'10 x 8'11))
Rheiddiadur.
Llofft 2 (Cefn) (2.92m x 2.87m (9'7 x 9'5))
Rheiddiadur.
Ystafell Atig
Drws a grisiau serth i'r atig/stafell aml bwrpas a stafell storio.
Tu Allan
Gardd fechan yn y ffrynt. Gardd helaeth yn y cefn gyda golygfeydd agored. Sied ardd gyda chyflenwad trydan.
Gwasanaethau
Rydym yn deall bod y prif gyflenwad dwr. Draenio a thrydan wedi'u cysylltu â'r eiddo. Poteli Nwy. Dylai darpar brynwyr wneud eu hymholiadau eu hunain ynghylch addasrwydd a digonolrwydd y
gwasanaethau hyn.
Perchnogaeth
Rydym yn deall bod yr eiddo yn rhydd-ddaliad gyda meddiant gwag ar gael ar ôl ei gwblhau.
Property info
For more information about this property, please contact
Tudor Estates Agents, LL53 on +44 1758 458449 * (local rate)
Disclaimer
Property descriptions and related information displayed on this page, with the exclusion of Running Costs data, are marketing materials provided by Tudor Estates Agents, and do not constitute property particulars. Please contact Tudor Estates Agents for full details and further information. The Running Costs data displayed on this page are provided by PrimeLocation to give an indication of potential running costs based on various data sources. PrimeLocation does not warrant or accept any responsibility for the accuracy or completeness of the property descriptions, related information or Running Costs data provided here.